Dosbarth

Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 / St David's National Eisteddfod 2002 commisioned play

Cyfarwyddwr / Director ELEN BOWMAN

Cynllunydd / Designer JAMES NORTH

CAST: REBECCA HARRIES (Menna), SARA LLOYD (Nicola), JONATHAN NEFYDD (Hywel), FFION WILKINS (Hannah)

BROLIANT

Mae cwmni teledu Hywel Owen yn jôc, a'i ddyfodol yn y fantol. Wrth i storm o eira chwyrlio y tu allan i westy'r Sea View, ceisia Hywel a Menna achub eu crwyn drwy gynnal dosbarth penwythnos o 'sgrifennu comedi. Yr unig ddwy i lafurio drwy'r eira ydy Hannah, nyrs yng Nglangwili â thalent stand-yp tanllyd, a Nicola, ymchwilydd o'r blaid Lafur sydd angen gwersi gwenu. Pan fo cynllun dan-din yn cael ei ddatgelu, pwy fydd yn elwa? Comedi gyfoes am rym a dosbarth.

BLURB

Hywel Owen's TV company is a joke and its future hangs in the balance. As a snowstorm rages outside the Sea View hotel, Hywel and his wife Menna try to save their skins by holding a weekend course on comedy writing. The only two to battle through the snow are Hannah, a nurse in Glangwili Hospital with a fiery stand-up talent, and Nicola, a researcher for the Labour party who needs lessons in smiling. When an unscrupulous plan is revealed, who will gain from it? A contemporary comedy about power and class.

PREVIEW

FESTIVAL PLAY REFLECTS REAL-LIFE EVENTS - Dramatic twist in language battle (KAREN PRICE, Western Mail)

Writer Geraint Lewis admits he was quietly pleased when he read about the Welsh language battle which is to take centre stage at the National Eisteddfod. This is because the main character in his play, Dosbarth, which has been commissioned for this year's festival, has aspirations to be on a number of quangos, including the Welsh Language Board. In real life the board is due to be pitted against two pressure groups on the maes, in a contest which will help decide the language's political future.

"I am glad that this play is relevant and up to the minute" said the Cardiff writer. "I like to have a spin on what's going on now in 2002."

It is the second time Lewis has penned a play for the eisteddfod. Dosbarth focuses on a group of people who attend a comedy-writing course in a hotel in West Wales. The course is run by TV producer Hywel Owen whose company is under threat. He hopes the course will help save his future. The play focuses on the way Owen exploits the talents of the couple of students who attend the course, and it pays particular attention to his aspirations of joining a number of quangos and his advisory role on the Welsh Language Board.

Lewis spent six months working on Dosbarth and says he did not need much time to get ideas for the script.

"I have got an ideas file" he said. "It's not a matter of getting ideas - it's fitting them all in. When you are a full-time writer you keep notes on what excites you."

Lewis, who wrote Y Groesffordd for the 1996 eisteddfod, likes his plays to be topical. "It's a role of the dramatist - you can't bury your head in the sand, especially as there are few enough plays in the Welsh language. You have to have something that drives you to want to write in the first place. But you must not forget that the main purpose of the exercise is to entertain, so a play should not be a sermon."

The play is being staged by Sgript Cymru and directed by Elen Bowman.

Dosbarth will be staged at Theatr y Gromlech in Crymmych from August 5 to 9 at 8pm.

ADOLYGIAD (Luned Emyr, BARN)

Steddfod yn y Dosbarth

Aeth LUNED EMYR i weld Dosbarth, drama gomisiwn yr Eisteddfod. Y cymeriadu a’r dychan ar uchelgais cymdeithasol aeth â’i bryd hi.

Nid fi oedd yr unig un a roddodd anadl fawr o ryddhad pan lansiwyd Cwmni Sgript Cymru ym mis Mai 2000. Nid yn unig y byddai’r cwmni yma yn hybu a meithrin talentau ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, ond byddai hefyd yn gwmni a’i gwnâi hi’n bosibl i lwyfannu’r dramâu hynny yn dilyn traddodiad cwmni blaenorol arweinwyr Sgript Cymru, Dalier Sylw. Sgript Cymru oedd yn gyfrifol am y ddrama gomisiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a’r ddrama honno oedd Dosbarth gan Geraint Lewis. Dyma awdur sydd eisioes wedi cydweithio gyda Sgript Cymru yn 2001 gyda’i ddrama boblogaidd Ysbryd Beca. Ac nid dyma’r tro cyntaf iddo ysgrifennu drama gomisiwn yr Eisteddfod ychwaith. Ef fu’n gyfrifol am drama gomisiwn Eisteddfod Bro Dinefwr gyda’i ddrama Y Groesffordd yn1996.

Ar y noswaith yr euthum i weld Dosbarth, cefais fy siomi ar yr ochr orau wrth sylwi fod yr awditoriwm bron â bod yn llawn. Cefais fy synnu fod y ddrama’n cael ei pherfformio yng Nghrymych, a oedd oddeutu o siwrnai o’r eisteddfod ei hun. Roedd Cyfarwyddwr Gweinyddol Sgript Cymru, Mai Jones, yn hapus gyda’r ymateb i’r ddrama gan fod nifer helaeth wedi mynd i’w gwylio ar hyd yr wythnos: ‘Roedd pobl wedi mynd i drafferth i deithio’, meddai, ‘ac roedd y bobl leol wedi gwneud ymdrech i’w gweld hefyd.’

Braf fu gweld y ddrama wedi ei hargraffu ar ffurf sgript raglen yn barod ar ddechrau’r noson. Yn wir, y mae Sgript Cymru wedi gwneud polisi o gyhoeddi’r dramâu a lwyfennir ganddynt. Cafwyd cyfle i brynu copïau o Art and Guff Catherine Treganna yng Nghanolfan Chapter y llynedd cyn gwylio’r ddrama ar lwyfan, yn ogystal â Franco’s Bastard gan Dic Edwards eleni. Fel rheol, bydd Sgript Cymru yn codi pris gostyngol am y dramâu cyhoeddedig cyn i’r gynulleidfan wylio’r ddrama, ac rwy’n tybio bod hyn yn fodd llwyddianus o ddenu prynwyr. Yn achos Dosbarth, gwerthwyd y copïau am £3.00 cyn y cynhyrchiad, ac yna £5.95 ar ddiwedd y noson. Mae’r broses yn un ddrud i’r cwmni, ond maen nhw’n benderfynol o ddal ati â’r arferiad gan eu bod yn gredinol fod cyhoeddi dramâu yn hanfodol i lwyddiant y theatr yng Nghymru.

Tybed a ddylai cwmnïau eraill efelychu Sgript Cymru a chyhoeddi’r dramâu a lwyfennir ganddynt? Onid dyma un ffordd ymarferol ac nid afrealistig o godi statws y theatr, yn enwedig o ystyried cyn lleied o’n dramâu a gaiff eu cyhoeddi ar raddfa gyson? Yn anorfod, mae’r diffyg cyhoeddi yma yn ei gwneud hi’n anos i ddisgyblion a myfyrwyr gael gafael ar y dramâu a astudir ganddynt. A heb gyhoeddiadau o ddramâu Cymraeg, nid yw hi’n bosibl i ni chwaith gyfieithu ein dramâu a’i gosod ar lwyfan ehangach mewn gwledydd eraill.

Sefydlwyd sefyllfa Dosbarth yn syth bin wrth i ni weld y cwpl cyfryngol, Hywel Owen a Menna ei wraig, yn bustachu byw gan fod eu cwmni teledu yn y fantol. Ceisia’r ddau wella’u sefyllfa drwy gynnal gweithdy sgriptio comedi, a dim ond dwy sy’n mentro mynychu eu cwrs, ac mae hwnnw’n dipyn o siambyls maes o law.

O’r cychwyn cyntaf, roedd elfen ddychanol i’r ddrama. Bu i’r arlwy amrywiol o gymeriadau a gynigiai’r ddrama ychwanegu at yr hiwmor wrth inni eu gweld yn stryffaglo i gyd-dynnu â’i gilydd ar benwythnos clòs y cwrs ysgrifennu. Enghraifft o hyn oedd y gwrthgyferbynnu trawiadol rhwng y nyrs ffraeth, Hannah (Ffion Wilkins), a’i hagwedd ddi-flewyn-ar-dafod, a’r gwleidydd ifanc parod i blesio, Nicola (Sara Lloyd). Ei bwriadau hi wrth fynychu’r cwrs ysgrifennu comedi yw dysgu sut i fwydo ambell jôc i mewn i araith wleidyddol er mwyn ennill pleidleisiau: ‘Mae ymchwyl yn dangos bod araith yn cynnwys tair jôc yn fwy poblogaidd.’ Fesul tipyn, roedd bwriadau amrywiol y cymeriadau yn amlygu eu hunain. Sylweddolem fod pob un ohonynt eisiau i’r cwrs barhau am wahanol resymau, a daeth y cyferbyniad yn Dosbarth. Yn anorfod, yr oedd gan ambell i gymeriad le amlycach yn y llif storïol, ond nid oedd yr un cymeriad yn wan nac ychwaith yn anniddorol. Roedd pob un o’r pedwar yn gymeriadau difyr a safai ar eu traed eu hunain ac a gyfrannai i’r ddrama mewn ffyrf amrywiol a weddai i’w cymeriad. Yn wir, roedd y cast yn un cryf ac roedd y pedwar ohonynt yn cydweithio’n dda ac yn bwydo oddi ar linellau’r naill a’r llall sydd yn hanfodol i unrhyw gomedi gwerth ei halen.

Bu’r elfen o ffars yn rhan flaenllaw o’r ddrama o’i dechrau i’w diwedd, ac ni allwn lai na chwerthin ar adegau wrth i gymeriad y cynhyrchydd teledu rhwystredig Hywel (a chwaraewyd gan Jonathan Nefydd) fynd drwy’i bethau ar y llwyfan. Roedd egni Jonathan Nefydd yn anhygoel, ac wrth i’w sefyllfa gymhlethu’n ara ‘deg, felly hefyd byddai yntau’n ymdebygu fwyfwy i Basil Fawlty wrth iddo wibio’n wyllt o un ochr o’r set i’r llall.Llwyddodd Rebecca Harries, a actiai ran gwraig Hywel, Menna, wthio ffiniau ffars a oedd yn rhan mor bwysig o Dosbarth. Wrth i’r ddrama ddatblygu, roeddwn yn mwynhau gweld y ddau yn stryffaglu ac yn cyrraedd top catsh wrth iddyn nhw ymdrechu i oresgyn eu sefyllfa.

Os oes gen i feirniadaeth, yna elfen weledol y ddrama fyddai hynny. Chefais i ddim fy argyhoeddi gan y set a ddefnyddiwyd, er y gellid dadlau ei bod yn set realistig sydd yn gweddu i natur y ffars. Ond i mi, roedd y set yn cyfyngu’r digwydd, a hynny’n bennaf gan fod y llwyfan wedi ei rhannu’n dair rhan er mwyn cynrychioli tair ystafell benodol. Roeddwn yn dyheu am weld rhagor o elfennau theatrig yng nghud-destun gweledol Dosbarth. Mae gan ffurf y theatr gymaint i’w gynnig yn gelfyddydol oherwydd natur fyw y cyd-destun. Dyma bwer y cyfrwng sy’n ymddiried yn llwyr yng ngallu’r gynulleidfa i ddychmygu mewn ffordd unigryw nad yw’n bosibl i gyfryngau eraill.

Teimlwn fod y ddrama gomisiwn yn berthnasol i Gymru heddiw. Nid oedd ond angen edrych ar y halibalw gwleidyddol a ddigwyddai ar faes yr eisteddfod yn ystod yr wythnos i sylweddoli fod Geraint Lewis yn awdur â’i fys ar y pyls. Dyma awdur a chanddo rywbeth i’w ddweud am ein cymdeithas Gymraeg gyfoes. Llwyddodd i ymgorffori agwedd ffarslyd sawl un at wleidyddiaeth a dyfodol eu gwlad yn y prif gymeriad Hywel Owen. Dyma gymeriad sydd â’i fryd ar rym, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn un o’r corfforaethau sydd yn mynd â’i fryd. Wrth i’r ddrama ddatblygu, gwelwn y cymeriadau yma yn bustachu i lwyddo wrth iddo gymryd mantais o dalentau’r myfyrwyr sy’n mynychu ei gwrs. Yn wir, dyma gymeriad sydd yn barod i dalu unrhyw bris i gyrraedd ei uchelgais gwyrdroëdig wrth i ni sylweddoli ei fod wedi cyfrannu miloedd o bunoedd i’r Bwrdd Iaith yn ei ymgais i’w plesio.

Cyflwynwyd materion cyfoes perthnasol eraill, megis trafferthion y system iechyd mewn cyferbyniad ag ysfa hunanol dyn i lwyddo’n ariannol ar draul eraill. Llwyddodd Geraint Lewis i gyflwyno problemau perthnasol o’r fath heb ddisgyn i’r fagl o fod yn bregethwrol a didactig oherwydd drama sydd yn difyrru yw Dosbarth. Roedd y ‘themâu’ fel y cyfryw yn llifo’n naturiol gyda rhwyddineb y ddeialog, ac fe alluogodd cyflwyniad difyr o’r fath i ni’r gynulleidfa gnoi cil dros y sefyllfa grafog a welsom. Comedi gyfoes am beryglon statws a dosbarth a gafwyd yma, ac ni wnaeth Geraint Lewis ymatal rhag procio cydwybod y bobl hynny sydd â gormod o ddylanwad ac sy’n manteisio ar eu sefyllfa a’u grym.

Heb os, roedd gan Geraint Lewis rywbeth i’w ddweud yn ei ddrama ddiweddaraf. Ac i mi, dyma beth oedd un o brif lwyddiannau’r ddrama gomisiwn eleni. Pa iws gwylio drama a fawr ddim o bwys yn cael ei ddweud ynddi? Dywed Geraint Lewis ei hun yng nghylchlythyr Sgript Cymru (rhifyn 8) mai fforwm yw ffurf y theatr yn ei hanfod, lle y gallwn drin a thrafod materion cyfoes a pherthnasol ein cyfnod. Yng Ngwyl Caeredin eleni, llwyfennir nifer helaeth o ddramâu sy’n ymwneud â digwyddiadau Medi’r unfed ar ddeg sydd yn ategu fod ffurf y theatr yn caniatáu i ni drin a thrafod hinsawdd gyfoes ein byd yn gwbl agored. Braf oedd gweld y ddrama gomisiwn eleni yn dweud rhywbeth o bwys am hinsawdd Cymru heddiw ar ffurf dychanu deifiol a difyr.

awdur:Luned Emyr

cyfrol:476, Medi 2002 (BARN)