Haf o Hyd

Nofel (2009 Gwasg Carreg Gwalch £7.50)

Dyddiau dedwydd? Ynte hunllef a barodd am oes...?

Happy days? Or a nightmare that lasted a lifetime...?

BROLIANT

Mae Trystan a'i gyfaill newydd, Daniel, ill dau wedi cwblhau eu harholiadau ysgol ac mae haf crasboeth 1976 yn ymestyn o'u blaen yn llawn posibiliadau cyffrous. Nofel am y newid byd sy'n digwydd yn eich arddegau sydd yma, wrth i'r ddau ddathlu'u penblwyddi yn un ar bymtheg oed yn ystod un haf hudolus, mewn gwres lloerig sy'n medru gyrru rhywun yn wallgo'.

Amser ardderchog? Ie, i gychwyn, ond wrth iddo gael ei swyno gan lygaid mawr Jasmin mewn cymuned newydd o hipis ar ddiet o fadarch hud sych a chariad, mae Trystan yn gwybod ym mêr ei esgyrn na fydd ei fywyd byth yr un fath eto.

BLURB

Trystan and his new friend, Daniel, have both just finished their school exams and the hot summer of 1976 stretches invitingly before them full of exciting possibilities. This is a rites of passage novel, dealing with the changing world that happens in your teens as both celebrate their sixteenth birthdays during one magical summer, full of a maddening heat that could drive one crazy.

Happy days? Yes, initially, but as he is gradually bewitched by Jasmin's big eyes in a new community of hippies on a diet of dry magic mushrooms and love Trystan knows, deep down, that his life will never be the same again.

RHAGOLWG (Golwg 14/01/10)

'Siaradwyd yn fyrbwyll a ffôl....' - awdur ar drip i haf poeth '76

Cafodd awdur ddianc o Gaerdydd i'w fro enedigol yng Ngheredigion i sgrifennu ei nofel ddiweddara'. Cyfeillgarwch yw sail y nofel Haf o Hyd gan Geraint Lewis, a gafodd ei fagu yn Nhregaron. Mae'r cyfan yn digwydd yn ystod haf sych 1976 pan oedd yr awdur, fel ei ddau brif gymeriad, newydd orffen ei arholiadau Lefel O. Yn wahanol i Trystan a Daniel, buodd Geraint Lewis ddim yn llyncu madarch yr ardal...

"Yr unig debygrwydd yw bod y prif gymeriad a fi'r un oedran yn 1976," meddai Geraint Lewis. "Nofel ddychmygol yw hi. Trwy ffuglennu rhywbeth, chi'n agor dychymyg sy'n eich tynnu chi i rywle hollol wahanol."

Ond mae hi'n amlwg mai Tregaron yw 'Tregors' y nofel. "Mae hi'n handi cael rhyw fath o ddaearyddiaeth" meddai'r awdur, sy'n byw yng Nghaerdydd ac yn ennill bywoliaeth trwy sgrifennu cyfresi Pobol y Cwm yn ogystal â dramâu a nofelau. "Bydd pobol leol yn nabod y llefydd - fel y gwli ar bwys y lle post lle'r oedd pobol yn mynd i garu. Mae hi'n ardal mor odidog. Mae hi fel cymeriad arall mewn ffordd, y golygfeydd rownd y lle. Ro'n i am gyfleu gogoniant yr ardal."

Roedd haf 1976 yn "gyfnod cyffrous iawn," ac mae wedi dod â sawl digwyddiad go iawn i'r nofel - yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg, gig gatastroffig Edward H yn Steddfod Aberteifi a gemau Olympaidd Montreal.

"Mae pawb o ryw oedran penodol fel 'sen nhw'n cofio be' o'n nhw'n ei wneud yn 1976. Roedd hi'n haf twym, crasboeth."

Cafodd sioc pa mor gryf daeth y cyfnod yn ôl iddo. "Roedd yn gyfnod ffurfiannol. Maen nhw'n dweud bod dylanwadau ar y cyfnod yna yn eich ffurfio chi fel oedolyn."

Mae hi hefyd yn nofel am wahaniaethau a dosbarth. Daw Trystan o dan ddylanwad Daniel o'r ty crand ar gyrion y pentre'.

"Mae yna rywbeth trawiadol yn eu cyfeillgarwch, ond mae chwarae'n troi'n chwerw. Mae e am clash o wahanol fath o bobol, fel maen nhw'n dod mlaen gyda'i gilydd."

"Mae'r hanner cynta' yn eitha' hwyliog," meddai'r awdur, "ac i ffwrdd â hi. Yna mae'n newid gêr. Mae'r 'digwyddiad' yn dod yn eitha' sioc. Ro'n i eisiau herian fy hunan fwy, ac eisiau chwarae gyda newid cywair. Mae Trystan yn mynd ar gyfeiliorn, oherwydd beth ddigwyddodd, ond yn y pen draw, mae hi'n stori gadarnhaol, yn pwysleisio pwysigrwydd cymuned. Mae e'n dod i gofleidio'r pentre'. Byddwn i byth wedi dymuno cael fy magu yn unrhyw le arall."

ADOLYGIAD (EIRIAN JONES, Western Mail)

Gan ein bod yng nghanol un o'r gaeafau caletaf ers blynyddoedd, hwyrach y byddai'n syniad symud y tywydd oer i'r cefndir am ychydig a darllen nofel sydd, gan fwyaf, wedi'i seilio ar y cyfnod yn ystod haf crasboeth 1976. Yn fras, nofel hunangofiannol yw hon am fywydau dau ffrind newydd, Trystan a Dan, sy'n dathlu eu penblwyddi yn 16 oed yr haf hwnnw. Mae'n trafod yn gelfydd y ffordd mae bywydau'r ddau ffrind yn datblygu yn dilyn profiad erchyll a gafodd y ddau. Trwyddi draw, pwysleisir y gwahaniaeth yn y modd mae'r ddau fachgen yn ymateb i'r trychineb. Daw Trystan o deulu dosbarth gweithiol a Dan o deulu mwy breintiedig a chyfoethog.

Cymer yr awdur hanner y nofel i ddisgrifio digwyddiadau'r haf pell hwnnw. Yn ail hanner y nofel mae'n crynhoi digwyddiadau'r 30 mlynedd sy'n dilyn. Mae'r nofel yn ymdrin nid yn unig â datblygiad seicolegol a pherthynas y cymeriadau, ond hefyd gerddoriaeth glasurol, barddoniaeth Ffrengig, helynt carwriaethol y ddau ffrind, cyffuriau, amgylchiadau bywyd carchar ac ati. Mae'r awdur wedi gwneud ei waith cartref yn y meysydd hyn yn drylwyr.

Ysgrifennwyd y stori yn nhafodiaith frodorol canolbarth Ceredigion ac mae'r iaith yn frith o eirfa Saesneg, sy'n gwneud y ddeialog yn fyw ac yn driw iawn i'r dafodiaith wreiddiiol, er y gallai achosi penbleth i ambell un nad yw'n gyfarwydd â hi. Mae yna gryn dipyn o ddigwyddiadau cynhyrfus a thyndra yn y nofel hon. Cefais fy synnu'n aml gan y troeon annisgwyl yn y stori a chadwodd hyn fy niddordeb fwyfwy. Ar adegau mae'n stori dywyll dros ben, ond mae'r diweddglo'n llawn gobaith ac yn cadarnhau bod diwedd i bob tywyllwch ac oerni yn y pen draw.

REVIEW (EIRIAN JONES, Western Mail)

As we're in the middle of one of the hardest winters for years perhaps it's a good idea to put the cold weather behind us for a while and read a novel which is mainly set in the scorching hot summer of 1976. Basically this is an autobiographical novel about two new friends, Trystan and Dan, who both celebrate their sixteenth birthdays during that summer. It skilfully deals with the way the two friends' lives develop following one particularly horrible experience that both of them had. The difference in both boys' responses to the tragedy is emphasized throughout. Trystan is from a working class family whilst Dan is from a more privileged background.

The author takes half the novel to describe the events of that distant summer. In the second half he focusses on the main events of the following thirty years. The novel not only deals with the psychological development and relationship between the characters but also classical music, French poetry, the two friends' amorous exploits, drugs, life in prison and the like. The author has done his research in these fields meticulously. The story is written in the local mid-Cardiganshire dialect with a fair amount of English dotted here and there, which makes the dialogue come alive whilst remaining faithful to the original idiom, although this might cause some perplexity for those who aren't accustomed to it. There is a great deal of exciting action and tension in this novel. I was often surprised by the unexpected twists in the story and it kept my interest more and more. At times it is a very dark story, but the ending is full of hope and confirms that there is an end to every darkness and coldness ultimately.

ADOLYGIAD (Geraint George, GOLWG)

"Ro'n i yno..." - Roedd Geraint George hefyd yn ei arddegau yn ystod haf '76.

Daeth y nofel yma â llu o atgofion poeth a chwyslyd yn ôl: am ddyddiau hirfelyn tesog, digwmwl a di-hid. Crysau brethyn-caws, denims a flares. Queen, Rod Stewart ac Edward H ar y radio. Starsky and Hutch ar y teledu a Jaws yn y pictiwrs.

Mae Haf o Hyd yn dilyn perthynas glos, gymhleth ac, yn y pen draw, arswydus rhwng Trystan a'i ffrind newydd Daniel ym mherfeddion cefn gwlad Ceredigion. Stori am arbrofi, rhywioldeb, cyfeillgarwch, twyll, cenfigen, cyffuriau a dial yw hon. Ac un digwyddiad tyngedfennol yn y gwres llethol o dan ddylanwad madarch hud. Er mor dywyll yw'r stori, ceir sawl elfen o gomedi - fel yr helynt yn y noson sosej a seidr i godi arian i'r clwb rygbi lleol. Comedi du yw hi.

Daeth sawl digwyddiad ag atgofion i mi - cofio lluniau trawiadol planed Mawrth gan y Viking Lander, gemau Olympaidd Montreal a marciau perffaith Nadia Comaneci a damwain erchyll Nikki Lauda, y gyrrwr Fformiwla 1 yn ystod Garnd Prix yr Almaen ar Awst 1. Cofiaf fod yn nhafarn y Ferry yn Llandudoch gyda chriw o ffrindiau o Gwm Tawe ac Ysgol Ystalyfera yn yfed dan oedran - yn gwmws fel Trystan a Dan - yn ystod Eisteddfod Aberteifi. Tybed oedd Geraint Lewis yr awdur yna? Siwr o fod! Dyma'r 'Steddfod gynta' i fi gyda chriw o ffrindiau - a ninnau newydd orffen ein harholiadau Lefel O. Roedd Aberteifi yn sych ar y Sul bryd hynny a phawb yn heidio i dafarnau Llandudoch.

A Choncwest Cilgerran...neu "gachfa Cilgerran" i fi a channoedd o ieuenctid eraill (a Trystan a Dan) a fu yno. Cyngerdd mawreddog wedi'i drefnu gan yr Urdd y tu mewn i furiau castell trawiadol Cilgerran. Roedd Edward H i chwarae yno (uchafbwynt y Steddfod i fod) ac roedd y tocynnau fel aur. Fflop hollol: cyflenwad trydan yn torri a dim sioe, a phobol yn flin iawn. Daeth yr Urdd dan y lach a thechnegwyr uniaith Saesneg yn lwcus i ddod oddi yna'n fyw. Roeddwn i yno, ac rwyf dal yn flin am y peth!

Mae'r tri yn mynd i blymio i ddwr yr afon yn y gwres. Buon ninnau yn gwneud hynny trwy gydol haf '76. Erbyn diwedd Awst roedd afon Tawe bron yn sych - yn gwmws fel y disgrifiad o'r Pwll Dwfwn ger Abergwesyn yn y llyfr. Mae rhai elfennau o'r llyfr yn ddieithr i mi. Fel y gerddoriaeth glasurol - rhaid bod ieuenctid mwy soffistigedig rhwng Bont a Thregaron yr adeg yna! Pêl-droed, criced, Glan Llyn, cwrw, Edward H, merched...ie. Ond cerddoriaeth glasurol yn haf '76 - na! A thra'r oedd yr her o fynd i dafarnau dan oed yn un cyfarwydd iawn i ni, nid felly'r cyffuriau - y sbliffs a'r madarch hud. Roedd haf '76 yn ddigon hudol i mi heb y myshrwms.

Ces tipyn mwy o flas ar hanner cynta'r nofel na'r gweddill. Wrth i'r stori a'r lleoliadau symud yn eu blaen mae'n colli tipyn o'r sparc cychwynnol. Roeddwn yn disgwyl am rywbeth mwy dramatig yn y diweddglo. Peth arall oedd yn lletchwith i mi oedd y defnydd o bentre' ffug Tregors (Tregaron yn amlwg) fel prif leoliad y stori. Mae'r pentrefi a threfi cyfagos yn rhai go iawn (e.e. Pontrhydfendigaid, Abergwesyn, Aberystwyth ac ati). Pam felly na ddefnyddiwyd Tregaron?

Eto, wrth gwrs, byddai bwyta 'shrwmps hudol, ymladd meddwol mewn twmpath a dwyn ceir byth yn digwydd yn Nhregaron na fydde fe?