Comedi

SLAC YN DYNN (Cyfres ddrama gomedi, S4C) (Lluniau Lliw)

Cyfres ysgafn wedi ei seilio ar freuddwydion a byd ffantasi gwr ifanc, di-waith yn ystod diwedd yr wythdegau Thatcheraidd.

A comedy series based on the daydreams and fantasies of an unemployed young man during the late eighties Thatcher years.

Cynhyrchydd / Producer Peter Edwards (Cyfres 1, Series 1) Llinos Wyn Jones (Cyfres 2, Series 2)

Cyfarwyddwr / Director Peter Edwards (Cyfres 1, Series 1) Hugh Thomas (Cyfres 2, Series 2)

Golygydd Sgript / Script Editor Sion Eirian

CAST: GARETH POTTER (Ceri) / SHARON MORGAN (Mam) / IOAN HEFIN (Ieuan) / JONATHAN NEFYDD (Meurig) / SHANNI OWENS (Beth) / MENNA TRUSSLER (Cymdoges drws nesa') / EIRY THOMAS (Linda) (Cyfres 2, Series 2)

ADOLYGIAD

ASIAD REALITI A FFANTASI

Marilyn Samuel yn adolygu penodau cyntaf y gyfres Slac yn Dynn.

Wedi hir frwydro a chwyno nad oedd S4C yn darparu rhaglenni ar gyfer pobl ifanc, mae'r rhod yn dechrau troi. Ar nos Wener, mae'r awr rhwng saith ac wyth o'r gloch wedi'i neilltuo ar gyfer 'slot ieuenctid', gyda rhaglenni megis M.C. a Slac yn Dynn. Mae'n debyg y tybiai'r Hoelion Wyth 'na tua Chaerdydd bod eu cynulleidfa yn debygol o fynd allan ar ôl yr amser penodedig hwn. Ond colli'r rhaglenni y bydda i fel arfer gan fod rhywun yn ceisio rhoi trefn arno'i hun cyn mynd allan.

Ond wedi dweud hyn, mae'n werth gohirio'r gawod am rhyw hanner awr, ac eistedd i lawr i fwynhau cynhyrchiad Lluniau Lliw o'r ddrama gomedi Slac yn Dynn gan Geraint Lewis. Gareth Potter ydy Ceri Morgan, llanc ugain oed sy'n chwilio am waith; a'i ffordd unigryw ef o ddianc rhag undonedd a diflastod bywyd ydi craidd y gyfres. Mae teitl od a dweud y lleia i'r gyfres, Slac yn Dynn, ond fe gafwyd esboniad iddo yn y bennod gyntaf - mae Ceri'n cael ei gyhuddo gan ei frawd o "ddala'r slac yn dynn", o wneud dim byd. Ond mae Ceri'n gwneud mwy na dim byd - i ymdopi â'i sefyllfa mae'n breuddwydio a ffantasio. Mae tuedd i gymharu'r gyfres â chyfresi fel Billy Liar ac Adrian Mole, gan y defnyddir y fformat o olygfeydd breuddwydion a llawer o "Lais trosodd". Fe wneir hyn i gyfleu meddyliau Ceri.

I mi, yr elfen sy'n gwneud y gyfres yw'r golygfeydd breuddwydio. Yn amlwg, mae cryn feddwl y tu ôl iddynt, a maent wedi eu cyfarwyddo'n gelfydd hefyd. Mae'r golygfeydd real a'r golygfeydd breuddwydiol yn asio i'r dim â'i gilydd. Un olygfa sy'n aros yn y co' yw'r olygfa pan oedd Ceri'n bwyta hufen iâ gyda "flake" ynddo. Yna trown i Ceri fel Clint Eastwood ar gefn ceffyl â "cigar" yn ei geg y tro hwn. Mae rhai breuddwydion yn hollol 'bizarre' fel y cyfweliad gyda Ceri a'r Holwraig (Elin Haydn) mewn tanc pysgod; a'r cyfweliad efo 'Goofy Griffiths' pan yw Ceri'n meddwl ei fod yn gweld dannedd Griffiths yn tyfu o'i flaen, ac yn lle gweld pensel yn ei law, mae Ceri'n gweld moron. Ceir breuddwydion eraill sy'n efylychiad o steil, neu'n 'spoof', ar ddeunydd arall, megis yr olygfa Bonnie & Clyde, a'r hysbyseb banc.

Mae'r sgript yn fywiog a ffres a llawn hiwmor - hiwmor cynnil y dweud gan amlaf. Mae'r sgript yn gyfle i Gareth Potter ddangos ei allu i chwarae rhannau ysgafn yn ogystal â rhannau mwy difrifol. Yn y gorffennol cymeriadau go annymunol mae Gareth wedi'u hactio, cofiwn ei bortread o Harry yn Eastenders, er enghraifft. Ond mae rhywbeth yn hoffus yn Ceri Morgan, mae'n berson y gallwn uniaethu ag o. Optimist yw Ceri yn ei gais am Beth a swydd dda, fel sy'n cael ei adleisio yn y gân agoriadol:

"Dechreuad bore newydd, 'S'gwn i be ddigwyddith heddiw...."

I helpu Ceri i gadw'r Slac yn Dynn mae amryw o gymeriadau difyr: ei fam, Mrs Harries drws nesa', Beth, Ieuan a Meurig; heb anghofio Waldo, y pysgodyn aur.

Chwaraeir y fam gan Sharon Morgan. Nid y fam draddodiadol yw hon; mae mam Ceri yn lysieuwraig, yn mynychu llu o brotestiadau, megis protestio yn erbyn ieir batri. Nid yw hi ychwaith am i Ceri gymryd unrhyw swydd - "Paid ti setlo am rwbeth, rwbeth" yw cri ei fam.

I greu gwrthdaro yn y ddrama mae Ieuan brawd Ceri. Poen yn ystlys Ceri yw ei frawd uchelgeisio, ariangar, sy'n cael ei actio gan Ioan Hefin. Mae Ieuan yn gweithio fel rheolwr yng ngwesty'r 'Sea View', a mae ei fam a Ceri yn embaras iddo. Mewn un pennod, daw Ceri am gyfweliad i'r gwesty am swydd fel 'bouncer', ond am amryw o resymau nid yw Ceri isio'r swydd, ac mae'n codi cywilydd ar ei frawd yn y cyfweliad drwy smalio ei fod yn methu â siarad Saesneg.

Cymeriad canolog arall yw Beth, hen gariad Ieuan, a gwrthrych y rhan fwyaf o freuddwydion Ceri. Dyma ran gyntaf Shanni Owens yn y Gymraeg, a rhaid cyfaddef bod ei geirio hi yn glogyrnaidd a chwithig ar y dechrau. Ydi actoresau sy'n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf mor brin nes bod cynhyrchwyr yn gorfod castio rhywun sy'n gorfod treulio rhai wythnosau mewn canolfan iaith, megis Nant Gwrtheyrn, yn glowi'u hiaith cyn gallu chwarae'r rhan?

Mae Jonathan Nefydd fel Meurig, ffrind Ceri, i'w ganmol ar y llaw arall. Myfyriwr yw Meurig ond yn ystod gwyliau'r haf mae'n gwerthu cwn poeth ar y traeth gan lygadu'r merched sydd yn y dref ar eu gwyliau.

Mae Geraint Lewis wedi llwyddo i bortreadu nifer o gymeriadau difyr, lliwgar a chredadwy. Mae perthynas Meurig a Ceri yn effeithiol a'r ddau actor i'w gweld yn cyd-weithio â'i gilydd.

Mae'r gyfres wedi ei lleoli yn nhref glan môr Abersaith, ar arfordir Bae Ceredigion. A braf yw gweld cyfres wedi'i lleoli yn Ne Cymru am unwaith, yn hytrach na bod rhywun yn gweld pentrefi a threfi cyfarwydd Gwynedd dro ar ôl tro.

Mae digon o botensial am gyfres arall, i ddilyn hynt a helynt Ceri Morgan a'i freuddwydion - mae Geraint Lewis i'w ganmol am ddyfeisgarwch y sgript a llwyddo i greu cymeriadau y gall pawb uniaethu â nhw - wedi'r cwbwl mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n breuddwydio fel Ceri!

REVIEW (Selection of above review by MARILYN SAMUEL)

For me the success of the series lies in its fantasy sequences. Clearly, there's a great deal of thought behind them and they've been skilfully directed. The real and fantasy scenes combine together very well. One scene that lingers in the memory is when Ceri eats an ice-cream with a flake in it. Then we see Ceri as Clint Eastwood on a horse with a cigar in his mouth this time. Some of the fantasies are totally bizarre, like the interview between Ceri and the TV interviewer Elin Haydn in a fish tank, and the interview with 'Goofy Griffiths' when Ceri thinks he sees Griffiths's teeth growing in front of him, and instead of seeing a pencil in his hand he sees a carrot. We also have other fantasy sequences which are parodies or spoofs of different styles, as in the Bonnie & Clyde scene or the bank advertisement.

The script is lively and fresh and full of humour - a subtle humour usually. The script is an opportunity for Gareth Potter to show his talent for playing lighter roles as opposed to his usual more 'heavy' parts. In the past Gareth's played quite a few unsavoury characters, we recall his portrayal of Harry in Eastenders, for example. But there's something likeable about Ceri Morgan, he's someone we can empathize with. In his quest for Beth and getting a job he's essentially an optimist, as is reflected in the series opening song:

"The start of a new morning, Wonder what will happen today..."

CYFWELIAD (SBEC, Rhif 41, Hydref 6-12, 1990)

DYN Y BREUDDWYDION

Nos Sadwrn, fe fydd cyfres newydd sbon o SLAC YN DYNN yn cychwyn gyda Ceri (Gareth Potter) unwaith eto'n ochr-gamu o'r byd hwn i fyd breuddwydion. Bu DAFYDD MORGAN yn sgwrsio â'r awdur, GERAINT LEWIS, am ei waith.

Pam y teitl 'Slac Yn Dynn'?

Pan ysgrifennais y bennod 'peilot' wreiddiol nôl yn nechrau 1987 ro'n i wedi treulio dros flwyddyn yn ddi-waith. Ymadrodd yw 'dala slac yn dynn' am fod mâs o waith, neu rhwng dau beth, 'drifftio'. 'Ro'dd e i weld yn addas iawn ar gyfer yr hyn o'n i'n trial 'sgwennu ar y pryd. Wy wastad wedi cael trafferth gyda teitlau....

Er bod 'Slac Yn Dynn' yn gomedi mae yna ambell neges reit ddifrifol yn y gyfres hefyd. 'Ry'n ni'n ymwybodol iawn weithiau mai cyfnod Thatcheraidd yw hi, er enghraifft. Y'ch chi'n meddwl bod yr ochr ddifrifol yma yn bwysig?

Ydw. Ond yr adloniant yw'r peth mwyaf pwysig. Dyw'r gynulleidfa ddim mo'yn gwylio pregeth. Na minnau chwaith. Ond os codir ambell gwestiwn ar ôl chwerthin, yna gorau oll.

Mae steil y gyfres yn anghyffredin. Ffantasiau, tros-leisio, parodiau o ffilmiau ac hysbysebion. Pam dewis yr arddull yma?

Am ei fod e'n rhyddhau'r dychymyg mwy na jyst 'sgwennu am rywun o fewn pedair wal yn eistedd ar soffa yn yfed te. Mae hynny'n gallu bod yn ddiflas iawn, i'r sgwennwr a'r gwyliwr.

Beth, fel sgriptiwr, y'ch chi'n teimlo yw'r elfen bwysicaf mewn cynhyrchu comedi?

Y castio. Trwy lwc mae gan gwmni Lluniau Lliw dim profiadol iawn ar yr ochr cynhyrchu. Dwi'n teimlo bod nhw wedi cael y cymeriadau i weithio'n dda iawn gyda'i gilydd.

Oes yna wynebau newydd yn yr ail gyfres?

Oes. Heb roi gormod bant mae 'na actores newydd o'r enw Eiry Thomas sy'n gaffaeliad mawr i'r gyfres. Wy'n licio'r ffordd mae Lluniau Lliw yn rhoi siawns go iawn i wynebau newydd ifanc. Mae hyd yn oed Gareth Potter, sy'n chwarae'r brif ran, Ceri, er yn weddol brofiadol, yn wyneb gymharol newydd i S4C.

Fe gadawo ni Ceri ar strydoedd Llundain ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf. Ydy e'n aros yno yn yr ail gyfres neu'n dychwelyd i Gymru?

Gwyliwch y gyfres....

ANNWYL ANGHARAD (Cyfres gomedi, S4C, Tachwedd 1984) (HTV)

Cyfres am fenyw ifanc sydd wedi symud o'r ddinas i weithio mewn llyfrgell yng nghefn gwlad Cymru.

A comedy series about a young woman who's moved from the city to work in the rural heartland of West Wales.

Cynhyrchydd-Cyfarwyddwr / Producer-Director: Terry Dyddgen Jones

Golygydd Sgript / Script Editor: Wil Roberts

CAST: NIA CARON (Sioned), MYFANWY TALOG (Beti), GLAN DAVIES (Tom), FRASER CAINS (Daniel)

RHAGOLWG (SBEC Rhagfyr 1 - 7 1984)

ANNWYL ANGHARAD yw cyfres gomedi sefyllfa gyntaf Geraint Lewis, sy'n enedigol o Dregaron. Yn 24 oed, ef yw'r ieuengaf erioed i ysgrifennu cyfres ar gyfer y teledu yng Nghymru. Mae'r awdur efallai yn fwy adnabyddus fel actor. Ef oedd yn rhannol gyfrifol am sefydlu Theatr Ystwyth ym 1981 ac yn ddiweddarach fe'i gwelwyd yn perfformio'n gyson gyda Chwmni Theatr Cymru. Er hynny, mae hefyd wedi ysgrifennu drama hir ar gyfer y teledu, a'r gobaith yw y bydd honno hefyd yn ymddangos ar S4C yn y dyfodol agos.

Yn ogystal â'r pedwar prif gymeriad fe welwn lu o gymeriadau lliwgar eraill yn ystod y gyfres, megis Meri Jenkins, y lyfrgellydd Rhanbarthol; Ann, y drinwraig gwallt leol; Godfrey y tafarnwr; ei fodryb Gladys Edwards; heb sôn am y cyrnal sy'n darllen The History of Striptease o glawr i glawr.

Llond pentref, felly, o gymeriadau gwallgof!

Ond y cwestiwn a glywir gan lawer yn aml yw "Pwy yw Angharad?"

Ac mae'r ateb yn syml....gwyliwch y gyfres!

PREVIEW (Cambrian News, November 1984)

TV BREAKTHROUGH FOR WELSH PLAYWRIGHT

A series of six half-hour situation comedy programmes which starts on S4C on November 19 will give young Welsh author and actor, Geraint Lewis from Tregaron, his first break as a television scriptwriter. 'Annwyl Angharad' will feature two Ceredigion actors, Nia Caron (also from Tregaron) and Glan Davies (Aberystwyth). The series follows what happens to a young Cardiff girl when she moves to a small town in Cardiganshire to work as a librarian. The girl is played by Nia Caron, who has appeared regularly in stage productions around Wales, and more recently on radio and television. Her landlady is played by the well-known Welsh actress, Myfanwy Talog, and her landlord by Glan Davies. The actor, Fraser Cains, plays a former Liverpool social worker and Welsh learner who comes to lodge in the same house as the young librarian. The comedy produced by HTV will give former announcer, Terry Dyddgen, his first chance to produce and direct his own series.

ADOLYGIAD (Eric Wyn, Y FANER, Tachwedd 30, 1984)

Daeth comedi-sefyllfa mewydd i'n sgrin, y tro yma gan HTV. Mae Annwyl Angharad yn gyfres o chwech ac yn gynhyrchiad cyntaf Terry Dyddgen Jones, yr hwn yr ydym yn ei gofio yn gyhoeddwr gyda HTV.

Rhaid cofio nad peth teg na doeth ydyw beirniadu comedi gyfres, neu o ran hynny, unrhyw gyfres wedi inni weld y bennod gyntaf yn unig. Wedi'r cwbwl, mae pennod gyntaf yn gyffelyb i ragair sydd yn gosod y sefyllfa ac yn cyflwyno cymeriadau. Ond gallaf ddweud fod Annwyl Angharad am eich plesio yn yr wythnosau sydd i ddod gan fy mod wedi cael gweld penodau diweddarach (rhagolwg i'r Wasg). A gallaf dystio fod pethau doniol iawn i ddod.

Nid wyf yn datgelu cyfrinach wrth ddweud fod yna gyffyrddiadau hynod o ddifyr, fel enghraifft edrychwch am y "Chariots of Fire sequence" ym mhennod 3. Mae hyn ynddo ei hun yn dangos fod gan Terry Dyddgen Jones ddawn arbennig fel cyfarwyddwr. Mae un cymeriad, sef Daniel (Fraser Cains) yn greadigaeth gwir gomig. Geraint Lewis yw awdur ifanc y gyfres ac yn ystod yr wythnosau nesaf fe welwch fod ganddo ffordd hynod o chwarae gyda geiriau. Ond ai hon yw'r Fo a Fe y bu hir chwilio amdani? Cewch weld a barnu, maes o law.

DANIEL TURNER, YNTE! (Cyfres gomedi, S4C, 1985) (HTV)

Dilyniant i'r gyfres 'Annwyl Angharad' gan ganolbwyntio mwy ar y dysgwr Daniel Turner.

A sequel to 'Annwyl Angharad' focussing more on the Welsh learner, Daniel Turner.

Cynhyrchydd-Cyfarwyddwr / Producer-Director: Terry Dyddgen Jones

Golygydd Sgript / Script Editor: Wil Roberts

CAST: FRASER CAINS (Daniel) NIA CARON (Sioned), MYFANWY TALOG (Beti), GLAN DAVIES (Tom), MICI PLWM (Iolo)

SMITHFIELD (Ffilm gomedi, S4C) (Pendefig)

Ffilm gomedi yn dilyn criw o ffermwyr ifainc ar eu taith flynyddol i sioe Smithfield yn Llundain.

A comedy film following some young farmers on their annual outing to the Smithfield show in London.

Cynhyrchwyr / Producers Paul Turner Peter Holmans

Cyfarwyddwr / Director Hugh Thomas

CAST: DEREC PARRY (John), JOHN GLYN OWEN (Alan), MEIRION DAVIES (Huw), DEWI RHYS WILLIAMS (Ieuan), ELFED LEWYS (Islwyn), EIRY PALFREY (Eirlys), SIWAN ELLIS (Llinos), STIFYN PARRI (Dafydd), SUE RODERICK (Pegi), TONI CARROL (Gillian), CERIS MORRIS (Sandra), JW THOMAS (Owain) STEVE BOTCHER (Porthor)

ER MWYN TAD (Cyfres gomedi, S4C) (Cynhychiadau'r Bae, Tiger Bay Productions)

Cyfres gomedi yn dilyn bywydau dau dad absennol sy'n byw mewn fflatiau yn yr un ty.

A comedy series following the lives of two absent fathers who live in flats in the same house.

Cynhyrchydd / Producer Geraint Jones

Cyfarwyddwr / Director Hugh Thomas (Cyfres 1, Series 1) Huw Chiswell (Cyfres 2, Series 2)

CAST: IESTYN JONES (Dewi), DEWI RHYS (Peter), CARYS LLYWELYN (Elin), JESSIKA CADMORE (Bethan)

(Y DDWY GYFRES WEDI RECORDIO O FLAEN CYNULLEIDFA)

(BOTH SERIES WERE RECORDED IN FRONT OF AN AUDENCE)

I'R GAD (Cyfres gomedi, S4C) (Lluniau Lliw)

Sgrifennwyd ar y cyd gyda Mark Landon / Co-written with Mark Landon

Cyfres gomedi wedi ei osod yng nghyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.

A comedy series set in Wales during Roman times.

Cynhyrchydd / Producer Peter Edwards

Cyfarwyddwr / Director Hugh Thomas

CAST: STIFYN PARRI / PHYL HARRIES / GAYNOR MORGAN REES / MICI PLWM

(WEDI RECORDIO O FLAEN CYNULLEIDFA)

(RECORDED IN FRONT OF AN AUDIENCE)

WHERE ANGELS FEAR TO TREAD (Comedy episode commision, BBC London)

Sgrifennwyd ar y cyd gyda Mark Landon / Co-written with Mark Landon

Pennod agoriadol o gyfres gomedi a oedd yn dilyn bywyd ficer dinesig.

Opening episode of sitcom based on the life of an urban vicar.

Golygydd Sgript / Script Editor Anne Pivcevic (BBC Comedy Unit)

(Cawsom esboniad na fentrwyd ymhellach â'r gyfres gan fod syniad newydd go debyg wedi dod mewn o gyfeiriad sgriptiwr mwy profiadol, sef Richard Curtis â 'The Vicar of Dibley')

(We were told it fell at the last hurdle due to a new but similar idea from a more experienced writer - Richard Curtis's 'The Vicar of Dibley'!)

A HEALTHY BUSINESS (Comedy episode commision, BBC London)

Sgrifennwyd ar y cyd gyda Mark Landon / Co-written with Mark Landon

Pennod agoriadol o gyfres gomedi wedi ei osod mewn meddygfa, lle mae'r Rheolwr Cyffredinol, heb unryw hyfforddiant meddygol, yn gwneud y penderfyniadau pwysig.

Opening episode of a sitcom based in a GP surgery where the general manager, with no medical training, holds the purse strings.

Golygydd Sgript / Script Editor Anne Pivcevic (BBC Comedy Unit)

(Er wnaeth ein sgript gyrraedd y rhestr fer olaf o 3, fe benderfynnodd y BBC rhoi ei cyfres gomedi newydd am y wasanaeth iechyd i 'sgennwr mwy profiadol, sef Andrew Marshall, sgriptiwr y gyfres '2.4 Children').

(Although our script reached the final shortlist of 3, the BBC once more opted to give its new health service sitcom to a more experienced writer, Andrew Marshall of '2.4 Children' fame).

PONTEIFI (Cyfres gomedi, S4C) (Teledu Opus)

Cyfres gomedi am glwb golff yng Ngorllewin Cymru.

A comedy series about a golf club in West Wales.

Cynhychydd-Cyfarwyddwr / Producer-Director Gwyn Hughes Jones

CAST: GWION HUW / RHYS PARRY JONES / EMYR WYN / BUDDUG JAMES / RHYS ap WILIAM / LOWRI STEFFAN / GWENYTH PETTY

PELYDR-X (Cyfres sgetsus, S4C) (Teledu Elidir)

Cyfres wythnosol o sgetsus dychanol am neweddion y dydd. Wedi cyfrannu sgetsus bob wythnos.

A weekly satirical sketch show based on the news of the week. Contributed sketches every week.

Cynhyrchu a chyfarwyddo / Producer-Director: Huw Eirug

CAST: Emyr Wyn / Emyr Roberts / John Pierce Jones / Rhian Morgan / Nia Samuel