Y Malwod

Y Malwod a storiau eraill (Annwn, 1987) £2.95

BROLIANT

Y Gymry gyfoes yw thema'r casgliad hwn o storiau, sy'n ymwneud â'r berthynas rhwng pobol a'i gilydd yn ein cymdeithas ddigyfeiriad, ddinesig. Lleolir y storiau yng Nghymru a thramor, ac wrth i'r cymeriadau brith ddod o dan y chwyddwydr deuwn yn ymwybodol o'r tyndra, y rhwystredigaeth a'r hanner gwallgofrwydd sy'n ffrytian dan wyneb ein normlarwydd tybiedig. Mae i'r gyfrol ddyfnder, crebwyll a sylwgarwch creadigol sy'n nodweddiadol o arddull y stori fer ar ei gorau.

The Snails and other stories

BLURB

Contemporary Wales is the theme of this volume of short stories, especially the relationship between people in our aimless, urban society. The stories are set in Wales and abroad, and as the numerous characters come under the magnifying glass we become aware of the tension, the frustration and half-madness that simmers under the surface of our presumed normality. The volume has a depth and comprehension and a creative attentiveness which is characteristic of the short story form at its best.

ADOLYGIAD (M.Wynn Thomas, LLAIS LLYFRAU, Gaeaf 1987)

Dylid hefyd canmol y cyhoeddwyr newydd, Annwn, am gyhoeddi Y Malwod, sef casgliad o storiau byrion brathog, awgrymog, gan Geraint Lewis. Mae ganddo ddawn wreiddiol, ddigamsyniol - y ddawn i gyfleu odrwydd y byd modern bas, lle y mae pobl yn dod at ei gilydd heb fod unrhyw gyd-ddealltwriaeth wirioneddol rhyngddynt, a lle y gall bywyd droi'n rhibidirês o brofiadau digyfeiriad a digysylltiad. Storiau cynnil sy'n aflonyddu ar y dychymyg yw'r rhain, ac y mae eu naws, a'u harddull, a'u neges yn f'atgoffa i o'r darlun swrrealaidd, hunllefus o Hollywood a geir yn nofel wych Nathaniel West, The Day of the Locust.

REVIEW (M.Wynn Thomas, BOOK NEWS, Winter 1987)

The new publishers, Annwn, should also be praised for publishing Y Malwod (The Snails), a volume of subtle, biting short stories, by Geraint Lewis. He undoubtedly has an original talent - the skill to convey the oddness of the modern, shallow world, where people come together without any real understanding or connection between them, and where life can turn into a rigmarole of unfocussed and unconnected experiences. These are concise stories that disturb the imagination, and their atmosphere and style and message remind me of the surreal, nightmarish portrayal of Hollywood in Nathaniel West's excellent novel The Day of the Locust.

Y naw stori:

Y Malwod

Yr Ynys

Fychan

Cyngerdd Awr Ginio

Y Parti

Mam Lisa

Myfyrwraig y Flwyddyn

Nadolig Llawen

Gwefusau Oren