Lloerig

Geraint Lewis yw Awdur y Mis Llyfrgelloedd Cymru ar gyfer mis Mawrth 2022.

Adolygiad Nation.cymru 03/04/22 - Jon Gower

Sexploitation and grief are two words that perhaps describe the principle themes of Geraint Lewis' latest novel. So not the usual stuff of the Welsh language novel. It's an absorbing and skilfully assembled work that came second in the prose medal competition at the National Eisteddfod and has now been deservedly published - a work of quiet and insistent absorption, taking the reader into its world completely.

The story is redacted by middle-aged Mari, mother of sixteen year old Kevin who has taken his own life in the garden of his parents' bed and breakfast as a consequence of being blackmailed after he's been secretly filmed in a state of arousal in front of his computer.

To compound Mari's bleak misery Kevin was about to receive his excellent exam results: indeed he had everything going for him before a faceless extortionist in the Philippines threatened to release images of him unless he handed over a lot of money.

The story is told pretty much as a single sentence, a bright, flowing stream of consciousness which reminds one of Lucy Ellmann's Ducks, Newburyport which similarly has a middle-aged woman itemizing her life, listing its travails and joys in a long, long ticker tape of sentences.

Unlike the Ohio housewife at the heart of Ellmann's book, Mari's account of the world around her is a bit more faltering, even if they both have it in for Donald Trump. As Mari spools through both recent events and Kevin's progress through the world there are words that she can't bring herself to say.

She is ultimately given strength by her Christian conviction - she is a diligent chapel-goer - to help her deal with things, and to finally utter the dread words concerning her son's death, not to mention the simple four letter word that can really help....being the word "sorry".


Vivid portrait

But this is not a depressing work of fiction, far from it. It's shot through with gentle, telling reminiscences as Mari makes a cake or a cup of tea whilst reconstructing her darling boy's life. In so doing she assembles not only a vivid portrait of him but also an account of the extended family too.

Mari goes right back to Kevin's birth and to his being named after the Liverpool striker who delighted Anfield crowds during the John Toshack era. There's her husband, Martin, still a Liverpool fan and a trained paramedic who ironically finds his son's body but is too late to save him. Not to mention a Welsh grandfather straight out of central casting.

But central to all of this is Mari's quest for understanding, especially as the formal inquest into Kevin's death looms large. As she talks about him with his friends or his girlfriend, or forensically explores his bedroom she finds out that there's a great deal she doesn't know about her only son.

There's his interest in online porn and rope and bondage and then some typical teenage experiments with drugs. But she hopes that by understanding his life better she can begin to properly fathom his death, with its attendant depths of despair for those he leaves behind. In the process she discovers that there isn't a word for a parent who has lost a child, so awful is the experience as well as coming to some understanding of the pernicious aspects of the internet and social networking.


Chasmic loss

As readers of Geraint Lewis' recent collection of lockdown stories Cofiwch Olchi Dwylo will well know he is an astute observer of the times, so the book is peppered with telling and knowledgeable references to football, capitalism, the songs of Datblygu, Gruff Rhys and Super Furry Animals, the Brexit vote and its consequences, the growth of the Welsh independence movement, not to mention the moon and all its phases.

If you choose it's a novel which can be read in a single sitting, the lovely, lilting voice of Mari carrying you with it, flowing like the river Teifi which her son loved with all heart.

And when you finish it might well be the little details that remain in the mind - the ways in which Mari collects tiny things to help her be reminded of Kevin, in so doing turning his bedroom into a museum, just as the passageway to their home becomes a sort of instant shrine to him.

It's a book about loss, yes, and incredible, chasmic loss at that, but it is also about stoicism and fortitude and how love and time can help mitigate both absence and pain.

All that and more in 150 pages which amply display Lewis' short story writer's skills and sense of concision being brought to the fore, thus ensuring this slim but quietly bountiful book is quite the achievement.


ADOLYGIAD - Y SILFF LYFRAU (Western Mail, 04/06/2022) Beryl Griffiths

Pe byddwn yn dweud mai'r cyfan sy'n "digwydd" yn y nofel hon yw fod Mari yn gwneud cacen, yn treulio ychydig funudau yn yr ardd tra bod y gacen yn y popty, yn ei thrimio, ac yna'n mynd i'w gwely, mae'n siŵr na fyddech yn rhuthro i'r siop lyfrau agosaf er mwyn ei darllen.

Ond dim ond digwyddiadau'r "presennol" ydi'r rhain. Mae meddwl Mari yn crwydro yn ôl ac ymlaen, gan ddisgrifio blynyddoedd o hanes ei theulu yn fyw a manwl iawn. Ie, nofel llif yr ymwybod ydi hi, a pheidiwch â chwilio am frawddegau na phenodau, achos llif gwirioneddol sydd yma, yn llythrennol - yn llifeiriant o eiriau. Ond da chi, peidiwch â chael eich dychryn gan y diffyg atalnodi. O fewn ychydig dudalennau byddwch wedi anghofio am y peth a bydd llif y geiriau yn eich cludo drwy'r stori afaelgar.

Mae'r diwrnod dan sylw yn un pwysig am ei fod yn ddiwrnod canlyniadau TGAU mab Mari, Kevin, ond fel y cawn wybod o'r dechrau mae Kevin wedi gwneud amdano'i hun trwy grogi ar goeden afalau yng ngardd y teulu. Felly, yr hyn sydd yma mewn gwirionedd ydi Mari'n ymlafnio wrth geisio gwneud rhyw fath o synnwyr o'r digwyddiad. Mae ei phen, yn naturiol, yn llawn cwestiynau ac amheuon, a chawn ein harwain yn gelfydd trwy'r cyfan.

Cawn gyfle i ddod i adnabod nifer o gymeriadau pwysig eraill ym mywyd Kevin: ei dad Martin, ei ffrindiau, ei gyn-gariad Megan a'r cymeriad sy'n dod yn amlycach wrth i'r nofel fynd yn ei blaen, Rhodri, ond gwelwn y cyfan trwy lygaid Mari, wrth gwrs.

Ydi, mae hon yn nofel sydd wedi ei gosod yn y cyfnod cyn y pandemig, ond mae'n nofel gyfoes iawn, iawn. Rhoddir sylw manwl ynddi i gaethiwed pobl ifanc wrth sgriniau o bob math, a'r ffaith nad oes gan rieni unrhyw syniad beth sy'n mynd ymlaen yn eu bywydau "arlein" nac yn eu bywydau "go iawn", fel sy'n dod yn glir i Mari. Cawn ein tywys i fyd tywyll camfanteisio ar bobl ifanc yn rhywiol, ynghyd â blacmel. Cawn weld yn glir iawn y ffordd mae'r cyfryngau diriaethol a rhithwir yn ymdrybaeddu ym mhob stori er mwyn hybu eu poblogrwydd eu hunain, heb ystyried teimladau unrhyw un.

Gosodwydd y stori mewn llety gwely a brecwast mewn pentref glan môr ac mae'r dafodiaith o Geredigion sy'n gryf trwyddi yn awgrymu'r lleoliad. Darlunir y gymdeithas gyfan - y capel, y cwis wythnosol yn y dafarn a pherthynas aelodau'r gymuned â'i gilydd. Trafodir pynciau gwleidyddol fel Brexit ac ymgyrch Yes Cymru, a rhoddir lle amlwg iawn, fel mae'r teitl a'r llun ar y clawr yn ei awgrymu, i'r lleuad a'i grym dros ein bywydau.

Er bod hunanladdiadd ymysg bechgyn a dynion ifanc yn bwnc sy'n cael sylw cynyddol, go brin bod unrhyw nofel Gymraeg arall wedi mynd dan groen y mater mor drwyadl ac agored â'r nofel yma, ond mae hi'n llawer mwy na hynny. Mae'n nofel am gariad, am ffydd ac am fyw yn y cyfnod rhyfedd yma yn hanes y byd.

Crynodeb o adolygiad oddi ar gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru


ADOLYGIAD o BARN (rhif 717, Hydref 2022) - Dafydd Morgan Lewis

Ni ddylai diffyg atalnodi bwriadol y nofel hon am golled a galar rwystro neb rhag troi ati, meddai DAFYDD MORGAN LEWIS.

Mae Lloerig yn nofel arwyddocaol ac fe gyflawnodd Geraint Lewis gryn gamp wrth ei hysgrifennu.

Mam mewn galar yw Mari, yn ceisio dod i delerau â marwolaeth Kevin, ei mab un ar bymtheg oed, sydd wedi cyflawni hunan-laddiad. Crogodd ei hun ar y goeden afalau yn yr ardd. A hithau dan straen oherwydd y trychineb hwn mae Mari wedi bwrw ei gŵr am y tro cyntaf erioed. Roedd hynny ar y diwrnod yr oedd Kevin i fod i dderbyn canlyniadau ei arholiadau TGAU.

Er mwyn cael rhyw fath o drefn ar ei bywyd a'i meddwl mae hi'n mynd ati i bobi teisen Fictoria (un o bleserau'r mab hefyd). Wrth wneud hynny mae'n hel meddyliau ac yn ceisio dirnad pam y bu i'w mab disglair, golygus a dawnus gyflawni'r fath weithred. Roedd o nid yn unig yn alluog, ond hefyd yn gerddor gwych, yn ymddiddori yn y frwydr dros yr amgylchedd ac yn cefnogi'r mudiad Yes Cymru.

Mae Mari yn dwyn i gof fywyd ei phlentyn gan ddarlunio ei fagwraeth (sy'n swnio'n gwbl ddelfrydol) gan roi inni syniad o fywyd y teulu. Trwy ei hymsonau hi fe'n cyflwynir hefyd i Martin ei gŵr, Megan, cariad Kevin, a Rhodri, yr athro ffiseg sy'n rhannu diddordeb y llanc ifanc yn y sêr a'r bydysawd. Ac wrth i Mari geisio darganfod beth yrrodd ei mab i roi diwedd arno'i hun, cawn ein cyflwyno i stori dywyll sy'n ymwneud â'r we, ei gafael ar bobl ifanc ac ymelwa rhywiol. Ond y cwestiwn mawr yw, pwy oedd y tu ôl i'r cyfan? Cynhelir ein diddordeb tan y diwedd.

Mae Un Nos Ola Leuad, nofel Gymraeg fwyaf yr ugeinfed ganrif, yn bwrw ei chysgod dros Lloerig er fod y naill nofel wedi ei lleoli ym Methesda a'r ail yng Ngheredigion. Tra mae nofel Caradog Prichard yn perthyn i ddau ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, mae Lloerig â'i gwreddiau'n ddwfn yn nau ddegawd cyntaf ein canrif ni. Ond mae'r ymwneud â hunanladdiad, y diddordeb yn y lleuad a'r sêr, ac yn arbennig hoffter Kevin o waith Caradog yn uno'r ddau waith.

Mae hon yn stori heriol, a chwbl, cwbl gyfoes. Nofel wedi'i hysgrifennu yn null llif yr ymwybod ydyw a'r hyn sy'n drawiadol ac yn wirioneddol ogoneddus amdani yw nad yw ond un frawddeg o'r dechrau i'r diwedd, heb na pharagraff nac atalnod llawn na choma. Ond mae'r un frawddeg honno'n ein cario, yn wir yn ein hudo, yn ein blaenau ac fe lwyddodd yr awdur i gadw rheolaeth ar ei greadigaeth rythmig heb lithro unwaith.

Mae'n siŵr y bydd rhai yn wfftio at ei hyfdra ac yn rhoi'r nofel o'r neilltu. Ond naw wfft, ddyweda i, i ddarllenwyr gwangalon sy'n trin llenyddiaeth fel dihangfa.

Dyma'r tro cyntaf i mi weld y dull hwn o ysgrifennu yn y Gymraeg, ond fe ddeuthum ar draws rhywbeth tebyg yn Saesneg. Mae nofel Will Self, Umbrella, a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl, hithau'n cefnu ar baragraffau a phenodau fel modd o rannu'r testun. Rhoddwyd y nofel honno ar restr fer Gwobr y Booker yn 2012. Dod yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Amgen yn 2019 wnaeth Geraint Lewis, gydag un o'r tri beirniad yn awyddus i'w gwobrwyo. Pe bai'r beirniad hwnnw (neu honno) wedi cael ei ffordd fe fyddai yna gryn drafod wedi bod mae'n siŵr, a mwy o anghytuno nag a gafwyd yn sgil cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni hyd yn oed.

Ond mae ar ein llenyddiaeth angen awduron fel Geraint Lewis, pobl sy'n barod i wthio'r ffiniau a thorri'r rheolau yn awr ac yn y man. Mae'r awdur yn bwysicach creadur na'r beirniad yn y bôn ac mae Lloerig yn sicr yn nofel y dylai pawb sy'n gwerthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg ei darllen.