Geraint Lewis Ysgrifennwr-Writer

MANYLION CYSYLLTU / CONTACT DETAILS

e: sianco47@gmail.com

Yn hanu o Dregaron, Ceredigion, graddiodd mewn Saesneg a Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1981. Bu’n ysgrifennu yn llawn amser ers 1984, yn bennaf ar gyfer y teledu. Bu’n gyfrifol am ysgrifennu nifer o gyfresi comedi poblogaidd, gan gynnwys Annwyl Angharad, Daniel Turner, Ynte!, Slac yn Dynn ac Er Mwyn Tad a’r ffilm gomedi Smithfield. Cyd-sgriptiodd dau gomisiwn comedi sefyllfa i BBC 1, sef Where Angels Fear To Tread ac A Healthy Business. Ysgrifennodd sawl cyfres i blant, gan gynnwys Yr Enwog Wmffre Hargwyn a'r Meicrosgop Hud a bu’n aelod o dimau sgriptio Dinas a Mwy Na Phapur Newydd. Bu hefyd yn storio’n helaeth a sgriptio ar gyfer dwy o gyfresi mwyaf llwyddiannus S4C, sef Pobol y Cwm ac Iechyd Da. Sgriptiodd dair pennod o'r gyfres gyntaf o Teulu a dwy ffilm i ‘Boomerang’, sef SOS Galw Gari Tryfan ac Arwyr. Mae ei waith fel un o storiwyr a sgriptwyr Pobol y Cwm i'w weld ar S4C yn weddol rheolaidd, gan gynnwys yr wythnos i ddathlu deugainmlwyddiant y gyfres (Hydref 2014).

Darlledwyd nifer o’i ddramâu ar Radio Cymru, gan gynnwys Dilyn yr Alwad, Silicon, Morys y Gwynt, Cyrraedd Pen Llanw, Mamgu - y Stand-yp a Wimbledon.

Mae ei ddramau llwyfan yn cynnwys Y Cinio, Y Groesffordd (Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996), The Language of Heaven a Meindiwch Eich Busnes (i gyd ar gyfer ‘Dalier Sylw’) ac Ysbryd Beca, Dosbarth (Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002) a Dysgu Hedfan (y tair yma ar gyfer ‘sgriptcymru’). Cafodd ei waith berfformiadau sgript mewn llaw yn Gymraeg a Saesneg gan 'Protest Budr', sef Cold Caller a Perci/Parciau. Perfformiwyd ei waith llwyfan mwyaf diweddar ym Modedern yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017, sef dwy fonolog, Paradwys a Cof.  Cafodd ddrama fer newydd ganddo  perfformiad sgript mewn llaw yng Ngŵyl Lyfrau Aberaeron yn Hydref 2023. 

Cyhoeddwyd pump o’r dramâu uchod, sef Y Cinio (llyfr gosod TGAU), Ysbryd Beca, Dosbarth, Paradwys a Cof yn ogystal â chyfrol straeon byrion, Y Malwod a’r nofel X. Llwyddodd ei ail nofel  Daw Eto Haul (Carreg Gwalch) i gyrraedd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn yr Academi yn ystod 2004. Cyhoeddwyd ei nofel Haf o Hyd yn Nhachwedd 2009 a chyhoeddwyd ei gyfrol o straeon byrion, Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa) yn Nhachwedd 2013. Enillodd gystadleuaeth stori fer Cymdeithas Allen Raine yn 2011 â'i stori fer Amser Maith yn Ol. Ef hefyd oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Tony Bianchi yn 2019 am ei stori fer Rtdfcttftg ,m.kpgh. Derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur gan Lenyddiaeth Cymru yn 2020. Cyhoeddwyd ffrwyth llafur honno,  Cofiwch Olchi Dwylo a negeseuon eraill (Carreg Gwalch), ym Mehefin 2021. Cafodd ei nofel ddiweddaraf, Lloerig, a ddaeth yn ail am y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2020,  ei chyhoeddi ganol Mawrth 2022.  Cyfranodd stori fer, 'Cae Clatsio', i gyfrol newydd o straeon byrion am fyw yn y wlad, Gwreiddio (Sebra) yn Hydref 2023.

Ers 1981 bu hefyd yn actio'n achlysurol, gan gynnwys rhan DS Carwyn Phillps yn y gyfres ditectif Heliwr/A Mind to Kill a Sianco yn y ffilm Martha, Jac a Sianco. Mae ei waith actio diweddar yn cynnwys ymddangos yn 'Y Gwyll/Hinterland', 'Rownd a Rownd', 'Dan y Wenallt' a 'Gwaith/Cartref' yn ogystal â lleisio'r cymeriad 'Fflop' yn y cartwn poblogaidd i blant, 'Bing'.

Mae ganddo dri mab ac mae'n byw yn Aberaeron gyda'i wraig Siân.

Originally from Tregaron, Ceredigion, he graduated in English and Drama at UCW Aberystwyth in 1981. Has been writing professionally since 1984, mainly for television. Responsible for writing a number of popular comedy series in the early days of S4C, including Annwyl Angharad, Daniel Turner Ynte!, Slac yn Dynn and Er Mwyn Tad as well as the comedy film Smithfield. He also co-wrote two situation comedy comissions for BBC 1, Where Angels Fear To Tread and A Healthy Business.  He has written extensively for children, including several series of Yr Enwog Wmffre Hargwyn and Y Meicrosgop Hud as well as being on the writing teams for Dinas and Mwy Na Phapur Newydd.  Also scripted and storylined on numerous occasions for two of S4C’s most successful series, Pobol y Cwm and Iechyd Da. He scripted three episodes for the first series of Teulu and two films for ‘Boomerang’, namely SOS Galw Gari Tryfan and Arwyr. As a story-liner and scriptwriter for the Welsh language soap opera, Pobol y Cwm, his work has been seen on S4C on a fairly regular basis, including the 40th anniversary week (in 2014).

A number of his plays have been broadcast on Radio Cymru, including Dilyn yr Alwad, Silicon, Morys y Gwynt, Cyrraedd Pen Llanw, Mamgu - y Stand-yp and Wimbledon.

His theatre plays include Y Cinio (a GCSE set text), Y Groesffordd (the Bro Dinefwr National Eisteddfod Drama Commission, 1996), The Language of Heaven and Meindiwch Eich Busnes (all for ‘Dalier Sylw’) and Ysbryd Beca, Dosbarth (the St David’s National Eisteddfod Drama Commission 2002) and Dysgu Hedfan (all for ‘sgriptcymru’). He has had script in hand performances in Welsh and English with 'Dirty Protest', Cold Caller and Perci/Parciau. His most recent theatre work was performed in Bodedern at the Anglesey National Eisteddfod 2017, two monologues, Paradwys and CofA new short play was given a script in hand performance in English and Welsh during the Aberaeron Book Festival in October 2023. 

Five of the above plays have been published, namely Y Cinio, Ysbryd Beca, Dosbarth, Paradwys and Cof as well as a volume of short stories, Y Malwod and the novel X. His second novel, Daw Eto Haul (Carreg Gwalch), was long listed for the Academi Welsh Book of the Year in 2004. His novel Haf o Hyd was published in November 2009 and his volume of short stories, Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa) was published in November 2013. His story Amser Maith yn Ol won the Allen Raine Society short story competition in 2011. He also was the first recipient of the Tony Bianchi Short Story Prize in 2019 for his short story Rtdfcttftg ,m.kpgh. He received a Writing Bursary from Literature Wales in 2020. The fruit of that labour was a new volume of short stories, Cofiwch Olchi Dwylo (Remember To Wash Hands), which was published by Carreg Gwalch in June 2021. His latest novel, Lloerig, which came second in the Prose Medal competition at the National Eisteddfod 2020, was published by Carreg Gwalch in March 2022.  He also contributed a short story to a new volume of short stories about rural life, Gwreiddio (Sebra), published in October 2023.

Since 1981 he has also acted professionally in numerous productions, including the part of DS Carwyn Phillips in the detective series Heliwr/A Mind to Kill and Sianco in the TV film Martha, Jac a Sianco. Recent acting work includes appearing in 'Y Gwyll/Hinterland', 'Rownd a Rownd', 'Under Milk Wood', 'Gwaith/Cartref' and providing the voice for the character 'Flop' in the popular children's cartoon 'Bing'.

He has three sons and lives in Aberaeron with his wife Siân.