BROLIANT (CLAWR CEFN)
Mae Haydn a Rhys yn ffrindiau gorau ers dros 70 mlynedd, ac mae'r ddau wedi teithio o Geredigion i Ynys Môn i geisio darganfod a yw mab yng nghyfraith Haydn yn cael affêr.
MAE GAN Y DDAU GYFRINACHAU. MAE GAN UN OHONYNT WN.
A fyddan nhw'n dal i fod yn ffrindiau ar ddiwedd y gwyliau...ac a fydd y ddau yn dychwelyd adref?
Nofel am gyfeillgarwch oes, ac ymddiriedaeth ac am yfed gwin coch yn yr haul.
ERTHYGL (Golwg 12/12/2024) - Non Tudur
YN NOFEL GRAFOG GERAINT LEWIS MAE DAU HEN GYFAILL SYDD WEDI BYW BYWYDAU HELBULUS YN MYND AR STAKE-OUT YN YNYS MÔN...
Ar y wyneb, yr hyn sy'n digwydd yn nofel newydd Geraint Lewis, Haydn a Rhys, yw bod dau gyfaill yn eu 70au yn mynd i aros mewn carafan yn Sir Fôn i geisio datrys dirgelwch.
Mae;r ddau ffrind o Geredigion yn amau bod mab-yng-nghyfraith Haydn yn cael affêr gyda dynes sy'n aros ar yr un seit, ac am ganfod y gwir, Ond prif amcan y nofel yw treiddio i'r cyfeillgarwch cymhleth rhwng y ddau hen ffrind, lle mae sawl cyfrinach yn celu...
Mae hiwmor yn frith drwy'r nofel. Yn ôl yr awdur, sydd wedi sgrifennu yn helaeth i'r teledu, y radio a'r theatr, roedd ganddo awydd mynd yn ôl at ei wreddiau fel sgrifennwr comediau crafog, fel gwnaeth â'r gyfres Slac yn Dynn i S4C yn niwedd yr 1980au. "'Ro'n i'n gobeithio y byddai'r hiwmor tywyll vigilante sydd yn Haydn a Rhys yn debyg o ran cywair i'm drama lwyfan Ysbryd Beca, a oedd hefyd â stake-out yn gefndir iddi," meddai'r awdur.
Roedd Geraint yn un o'r bobol ifancaf erioed i sgrifennu comedi sefyllfa ar gyfer S4C - yn 23 oed - gyda'r comedi Annwyl Angharad yn 1984, am fenyw ifanc sydd yn symud o'r ddinas i weithio mewn llyfrgell yng nghefn gwlad Cymru.
Bu Geraint Lewis yn actor hefyd, gan bortreadu cymeriad Sianco yn addasiad nofel Caryl Lewis, Martha, Jac a Sianco i deledu. Ac os oes cryfder yn ei waith, cymeriadu yw hwnnw, meddai. "Efallai bod hynna'n dod o gefndir actio a theatr. Hwnna sy'n dod gynta' bob tro, creu'r cymeriadau. Am wn i (wrth actio) rydych chi'n rhoi cefndir cryf i unrhyw gymeriad rydych chi'n ei gymeriadau, er bod yr awdur wedi gwneud hynny'n barod. Os oes bylchau, 'ry'ch chi'n ei lenwi fe mewn â'ch dychymyg eich hunan."
Llithro mewn i sgrifennu a sgriptio teledu wnaeth Geraint. "Drama dw i wedi ei gwneud fwyaf erioed, ond dw i yn leicio gwneud rhyddiaith, a straeon byrion, a radio o ran hynny. Dw i wedi bod yn ffodus o wneud y cyfryngau yna i gyd. Yn y bôn, y stori fydd o ddiddordeb i chi - dyna'r ffon fesur bob tro."
Roedd ganddo awydd sgrifennu rhywbeth ysgafn ar ôl ei nofel Lloerig yn 2022 - a oedd wedi dod yn ail am y Fedal Ryddiaith yn 2021 - stori am fam a oedd wedi colli ei mab i hunanladdiad. Anogaeth arall oedd y profiad braf a gafodd wrth wylio'r ymateb cadarnhaol i'w ddrama gomedi fer ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd eleni. Roedd Byd Donna Tan y Pandy yn un o arlwy o bedair drama ddigri y Theatr Genedlaethol, Ha Ha Ha, gyda'r actorion Dion Davies a Leilah Hughes yn perfformio ynddi.
"(Yn y ddrama) roedd gyda fi rywun a oedd wedi bod drwy addysg ddwyieithog yng Nghwm Rhondda, ac wedi agor siop lliw haul," meddai, "a hen deip o eisteddfodwr yn cwrdd â hi ar bwys (cerflun) y Fam Forwyn ym Mhen-rhys. Y cyferbyniad rhwng y ddau oedd yn codi'r hiwmor. Mi wnes i fwynhau'r profiad a gweld y perfformiad. Mae'n bleserus iawn eistedd mewn cynulleidfa a gweld pawb yn chwerthin. Mae rhywbeth onest am gomedi, yn enwedig comedi theatr, achos rydych chi'n gallu gweld yr ymateb yn syth. Ond dw i wastad wedi meddwl ei fod e'n bwysig cael rhyw elfen o hiwmor, beth bynnag ydych chi'n ei sgrifennu. Hyd yn oed gyda rhywbeth fel Lloerig, gyda rhywbeth mor dywyll yn greiddiol i'r stori. Mi wnes i lot fawr o gomediau yn yr 1980au. Maen nhw'n dweud bod yr 1980au yn dod nôl, falle bod hi'n bryd i fi fynd nôl i bethau fel'na."
RHANNU STRAEON A SBLIFFS
Yn y nofel newydd mae'r ddau ffrind ar y maes carafanau yn tynnu coes, yn cwympo mas, yn yfed gwin a Calvados, ac yn rhannu ambell i sbliff. Maen nhw'n mynd ar drip cwch i weld palod Ynys Seiriol, ac yn ciniawa ar ambell i facrell maen nhw wedi'i fachu yng nghwmni pysgotwr lleol. Mae ambell i bennod wedyn yn mynd yn ôl sawl degawd, a chawn ddysgu am hanes y ddau a dod i weld beth yw'r dirgelwch pennaf yn y nofel.
"'Ro'n i'n leicio'r ffaith bod chi'n gallu torri nôl i bob degawd, o'r 1950au ymlaen, a gwthio'r stori ymlaen felly," meddai Geraint Lewis. 'Mae e'n ddiddorol fy mod i'n cael rhywun o'r oedran yna achos rydych chi'n gallu edrych nôl dros sawl cyfnod."
Mae tref enedigol y ddau yn ein hatgoffa o Aberaeron, lle mae'r awdur yn byw erbyn hyn ar ôl treulio cyfnod yng Nghaerdydd, lle bu'n sgriptio ar gyfresi fel Pobol y Cwm, Iechyd Da, Dinas a Mwy Na Phapur Newydd.
Ond tref ddychmygol yw un y nofel. "'Ry'ch chi'n gallu gweld y môr, a hefyd mae elfennau o Dregaron, yn tynnu ar fy mhrofiad i o fyw yn y ddau le," eglura Geraint. Tua hanner ffordd drwy'r nofel, mae yna dro sydyn yn stori'r ddau. "Dw i'n gredwr mawr mewn twists mewn stori, R'ych chi'n mynd ar drywydd gwahanol eto wedyn, achos r'ych chi'n canolbwyntio mwy ar Haydn a Rhys. Ry'ch chi bron wedi twyllo'r darllenydd mai'r stori yw mynd ar ôl trywydd y mab-yng-nghyfraith, ond yn wirioneddol eu stori nhw'n dau yw e a rhyw esgus yw hyn i gael y sgerbydau o'r cwpwrdd a setlo old scores cyn bod nhw'n mynd i weld eu creawdwr."
Cymeriad strêt yw Haydn, dyn priod ffyddlon, sydd wedi gwneud ei arian yn y byd adeiladu. Symudodd Rhys o Geredigion i Lundain yn yr 1980au, a gwnaeth ei arian drwy ddirgel ffyrdd a mynd ar gyfeiliorn braidd. Nid yw wedi setlo, er ei fod wedi canlyn sawl dynes. "Dy'n nhw ddim yn seiliedig ar neb yn benodol," meddai'r awdur. "fel unrhyw gymeriad, maen nhw'n gymysgedd o sawl person rydych chi'n nabod. Roedd dipyn o dylwyth gyda fi yn Llundain pan oeddwn i'n tyfu lan, felly ro'n i'n gyfarwydd â'r sîn Cymry Llundain i raddau. O'n i'n meddwl ar ôl ei ddarllen e fod e'n eitha' ffilmig, fe allai wneud ffilm eitha' da..."
Ie wir, fe fyddai'n addas troi'r nofel yn raglen deledu Netflix. Mae sawl cyfres wedi bod ar y platfform hwnnw yn ddiweddar am bobol hŷn sydd yn datrys dirgelwch. Fel Our Man on the Inside gyda Ted Danson. "Wel," meddai Geraint Lewis, "ffoniwch nhw!"
ADOLYGIAD (Western Mail 8 Chwefror 2025) - Martin Huws
'Awdur mentrus a hyderus,' meddai Rhiannon Ifans wrth feirniadu nofel Geraint Lewis, Lloerig, gafodd ganmoliaeth uchel yng Nghyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Amgen 2021. Roeddwn i'n edrych ymlaen at ei nofel ddiweddra, Haydn a Rhys ac ni chefais fy siomi.
Nofel dditectif/ddirgelwch yw hon ond amaturiaid yw'r ditectifs - dau ffrind bore oes, Haydn a Rhys, ar eu gwyliau yn Sir Fôn ac ysfa Haydn yw casglu tystiolaeth fod ei fab-yng-nghyfraith, Scott, yn cael affêr. Ond mae'r ffordd yn y nofel hon yn llawn troadau sy'n bachu sylw'r darllenydd.
Gyda llaw, sylwodd yr awdur nad oedd llawer o nofelau am ddynion yn eu saithdegau. Fel un sy wedi cyrraedd oed yr addewid (pa addewid?), rwy'n croesawu hyn,
Tipyn o gamp yw cynnal stori ddirgelwch ar hyd 32 o benodau ond mae'r awdur yn llwyddo am ei fod yn feistr ar sut i adrodd stori, yn gwybod faint o wybodaeth i ryddhau a faint i guddio ac felly'n creu'r elfen ddisgwyl. Ar ddechrau Pennod 27 datgelir y manylion canlynol, bod diferyn o waed ar forthwyl a chorff ar lawr ac mae hyn yn ddigon o abwyd i ddenu'r darllenydd.
O ran arddull, mae rhychwant Geraint Lewis yn eang wrth gyfleu'r dwys a'r doniol. Weithiau gall lunio troad ymadrodd trawiadol, er enghraifft 'Roedd e'n treial yn rhy galed i beidio treial yn rhy galed.' Weithiau gall gyfleu sefyllfa ddirdynnol ac mae ei ddisgrifiadau o oriau olaf Ann, gwraig Haydn, yn rymus.
Ei ddyfais lenyddol fwya effeithiol, yn fy marn i, yw'r gymhariaeth a rhoddaf ychydig o enghreifftiau: 'ei galon fel aderyn caeth,' 'un o'i wenau sinistr, llechwraidd, fel Jack Nicholson,' neu tyndra 'fel blanced anweledig yn llawn pinnau.' Ambell waith mae'r gymhariaeth yn delynegol: 'y cyffur yn ei gysuro fel cwrlid cysurus.' Ar ben hynny, mae'r dafodiaith Ceredigion, er enghraifft 'Gad dy lap wast' yn cyfleu ymdeimlad chwerw-felys mewn mannau.
Nofel ffilmig yw hon, y golygfeydd yn amrywio o'r pumdegau, y chwedegau, y saithdegau, yr wythdegau, y nawdegau i'r ganrif hon ac o Geredigion i Fôn, o Lydaw, i Lundain. Dyw hyn ddim yn creu dryswch ond yn ychwanegu dimensiwn arall at y naratif ac weithiau'n cryfhau'r elfen ddisgwyl.
A'r thema? Efallai bod cliw ar dudalen 153 lle mae Teleri'n dweud wrth ei thad Haydn: 'Wy wedi dysgu un peth trwy 'ngwaith: mae pobol yn gymhleth...' Ond wrth ailfeddwl, mae'n debyg taw'r thema yw na ddylen ni ddatgelu rhai cyfrinachau rhag ofn ein bod yn ailagor clwyfau.
Ar y cyfan, mae hon yn nofel ddifyr, yn ysgafn ond â haenau tywyll, yn dystiolaeth o ddawn ddiamheuol Geraint Lewis i gyfuno'r llon a'r lleddf.
Crynodeb o adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru
ADOLYGIAD (Nation.cymru 9 Chwefror 2025) - Jon Gower
If causing the reader to mis-step was the intention of this very entertaining novel then it succeeds at the task: it is one almighty banana skin - one liberally dipped in lubricating oil and set on a skid pan at that. There is a palpable sense of Lewis having fun as he writes, which communicates easily to the reader.
It's most certainly evident when he indulges in the occasional spot of paronomasia - being the grammatical term for word-punning - such as coining the word 'merlota' for the act of drinking 'merlot'. Indeed there's a lot of drinking in this book with small rivulets of Prosecco, local beers and red wine running through the plot.
Just to add to the dipsomania there are three plot points which hinge on bottles of Calvados, as if Gwasg Carreg Gwalch is indulging in some product placement.
History
It all starts out a bit like tasting the 'Last of the Summer Wine' as we find out about the relationship between two old friends going back to the days of early childhood in Ceredigion and follow them through holidays in Brittany to their early love affairs.
As the strap line on the cover tells us 'History never stays in the past.' Central to Haydn and Rhys's love lives is Ann, who eventually becomes Haydn's wife, even though there are strong suggestions that she has had an affair with his best friend Rhys.
It's a novel full of such hints and suggestions, nods in the wrong direction and some that are right and was written in part because Lewis noticed that there is a bit of a dearth of novels about men in their seventies.
He has filled the apparent gap in the market at a single stroke and done so with aplomb and imagination.
Even from the off, Haydn and Rhys's personalities are very different and it is clear that their trajectories through life will mirror that.
The novel deftly changes chronology, cutting back and forth from Wales to London and switching decades.
In the English capital we see the duplicitous Rhys as a successful if criminal night club owner, running The Fun House not far from Victoria bus station, even though he avers it's actually in Belgravia.
He indulges in money laundering and gets involved with the wrong crowd while Haydn's life is much more sedate, turning on his marriage to Ann and the upbringing of their daughter Teleri.
Sleuthing
When we encounter them on holiday on Ynys Môn there's much more to the vacation than meets the eye and it transpires that Haydn's brought them north to do some amateur sleuthing.
Haydn is the older kind of manabee detective, but Poirot he is most certainly not. He believes that his son-in-law Scott is having an affair and wants to catch him in the act and unmask his lover into the bargain.
So Haydn and Rhys start their surveillance of a caravan on the site where they have booked themselves in to stay and prove themselves to be pretty inept.
The subject of their covert studies is Rachel in caravan number 120. When they try to break in when Rachel's out running they do so with comical ineptitude.
Smiley's People they are most certainly not. It is little wonder she catches Haydn red-handed. It would never happen to Maigret.
What is certain is that there's a gun in all of the novel's dizzy mix and, as the great playwright Anton Chekhov suggested, if there's a gun involved someone's going to have to pull the trigger.
It certainly adds to the tension even as it ups the stakes in a work of fiction that darkens as it proceeds, especially so in a climactic ending that acts like a blow to the solar plexus.
Explosive
Another potentially explosive ingredient is a question mark over Haydn being Teleri's father and as if that wasn't inflammatory enough Geraint Lewis pours petrol over the paternity suit when it's suggested that Rhys might be the dad.
All of a sudden that pistol secreted in the shed turns into a lethal weapon.
This cunning, deftly plotted tale is a swimming pool filled with red herrings and things are never quite what they seem.
Lewis relishes putting the reader on the wrong foot as if a litle bit of havoc really makes a holiday.
This is popular Welsh language fiction at its best - accessible, funny and consistently entertaining even as it keeps the reader second guessing.
Not wanting to give the game away, I can totally guarantee you won't see whatever it is coming.
Haydn a Rhys by Geraint Lewis is published by Gwasg Carreg Gwalch and is available from all good bookshops.